Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

 

24 Mawrth 2014

 

CLA374 -  Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014


Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 mewn cysylltiad â Chymru o ran enw botanegol y rhywogaeth o domato.

 

CLA375 - Rheoliadau Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi’r gyfraith ynghylch defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta. Mae’r Rheoliadau’n diddymu ac yn ail-wneud rheoliadau blaenorol yn y maes hwn, tra’n parhau i orfodi gyfraith UE berthnasol.

Mae ystyr ‘sgil-gynhyrchion anifeiliaiad’ yn cynnwys unrhyw gynnyrch sy’n tarddu o anifail, gan gynnwys cyrff cyfan a rhannau o anifeiliaid, na fwriedir i bobl eu bwyta.

Mae’r Rheoliadau’n gosod rhwymedigaethau penodol ynghylch cael gwared ar, defnyddio a gwerthu sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Hefyd, rhaid i bobl sydd â rheolaeth dros sgil-gynhyrchion anifeiliaid (sef ‘gweithredwyr’) gael eu cofrestru a’u cymeradwyo.

 

 

 

 

 

 

 

CLA376 - Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)) (“y prif Orchymyn”).

 

Mae erthyglau 5, 8 i 12 a 14 i 17 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r prif Orchymyn drwy addasu’r mesurau rheoli presennol i rwystro Ceratocystis fimbriata f. spp. platani Walter a Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr rhag dod i mewn a lledaenu. Mae’r diwygiadau hefyd yn gweithredu mesurau rheoli penodol ym Mhenderfyniadau Gweithredu’r Comisiwn y cyfeirir atynt yn erthygl 3(1)(b) a Phenderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/67/EU.

 

Mae erthygl 3(1)(a) yn gweithredu Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/253/EU.

 

Mae erthyglau 3(1)(e), 4 a 6 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r diffiniad o “protected zone” yn erthygl 2(1) o’r prif Orchymyn, ac yn gwneud mân ddiwygiadau yn erthyglau 6(2) a 12(2) o’r Prif Orchymyn er mwyn cymryd i ystyriaeth Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 690/2008.

 

Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth i wahardd person rhag glanio planhigion Pinus L. yng Nghymru, a fwriedir ar gyfer eu plannu, oni hysbyswyd arolygydd awdurdodedig mewn ysgrifen ymlaen llaw.

 

Mae erthygl 13 yn diwygio Atodlen 3 i’r Prif Orchymyn er mwyn gweithredu Penderfyniad  Gweithredu’r Comisiwn 2012/219/EU

 

Mae erthygl 3(1)(a), (b) ac (f) yn darparu ar gyfer darllen cyfeiriadau yn y prif Orchymyn at Benderfyniad y Comisiwn 2006/473/EC, Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/756/EU, Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EU, Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EU, Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EU a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 690/2008 fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

 

 

 

 

 

CLA377 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gweithdrefn:  Negyddol
 


Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio, o 1 Ebrill 2014, y costau sy’n gymwys i driniaethau deintyddol a wneir o dan Fandiau 1, 2 a 3.

 

 

CLA378 - Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129)) (“y Cynllun”) fel y mae'n cael effaith yng Nghymru.

 

Mae'r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfraddau gwahanol o gyfraniadau pensiwn sy'n daladwy gan aelodau'r Cynllun sy'n cynyddu yn ôl swm y cyflog pensiynadwy y mae'r aelod yn ei dderbyn. Pennir cyfraddau'r cyfraniadau yn y Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 i'r Cynllun. 

 

 

CLA379 -  Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“y Cynllun”) sydd wedi ei nodi yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072 (Cy.110)), i fod yn effeithiol o 1 Ebrill 2014.

 

Mae erthygl 3 yn diwygio'r Cynllun er mwyn darparu ar gyfer cyfradd wahanol o gyfraniadau pensiwn sy'n daladwy gan aelodau'r Cynllun sy'n cynyddu yn ôl swm y tâl pensiynadwy y mae'r aelod yn ei dderbyn. 

 

 

CLA381- Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadu Tribiwnlys Prisio Cymru (Cymru) 2010 i adlewyrchu cyflwyno Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.

 

 

CLA383 - Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”), sy’n gwneud darpariaeth ynghylch yr arfer gan asiantaethau mabwysiadu (sef, awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) o’u swyddogaethau mewn perthynas â mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Deuant i rym ar 1 Ebrill 2014.

 

Mae’r Prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i asiantaeth fabwysiadu, wrth ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn, atgyfeirio’r achos at banel mabwysiadu a fydd wedyn yn gorfod gwneud argymhelliad i’r asiantaeth ynghylch a ddylid lleoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Prif Reoliadau er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i asiantaethau mabwysiadu wrth iddynt ffurfio panel mabwysiadu, pa un ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag asiantaethau mabwysiadu eraill. 

 

 

 

 

 

 

 

CLA384 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 mewn perthynas â Chymru.  Mae’r newidiadau’n ymwneud â’r canlynol –

 

 

CLA385 -  Gorchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Diddymu) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru, a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006.

 

 

CLA386 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi amryw faterion at ddibenion adran 108 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

Mae adran 108 yn darparu ar gyfer digolledu drwy daliad mewn achosion penodol pan fo caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a roddwyd gan orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl, a phan fo cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad hwnnw yn cael ei wrthod neu fod y caniatâd yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau.